O’r merched gad welediad – yn y Parc

Ganwyd perl o fudiad,

A rhain sy’n rhoi arweiniad

Yn glir dros ryddid ein gwlad.

Emrys Jones

Sefydlwyd Merched y Wawr ym 1967 yn y Parc ger y Bala.

Ym mis Rhagfyr 1966 ymwelodd swyddogion Sefydliad y Merched, Meirionnydd, â changen Y Parc am eu bod yn anfodlon fod y gangen wedi anfon erthygl i’r Cymro yn beirniadu Sefydliad y Merched.  Y feirniadaeth oedd fod y W.I. yn anfon papurau swyddogol uniaith Saesneg i ganghennau a gynhaliai eu holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Cwynai’r erthygl hefyd am nad oedd gair o Gymraeg yn y ‘North Wales Edition’ o gylchgrawn y mudiad hwnnw.

Yn y cyfarfod yn Y Parc eglurwyd i’r aelodau mai mudiad Saesneg oedd y W.I. ac yna awgrymwyd, os nad oeddynt yn fodlon perthyn i fudiad Saesneg, y dylid cau’r gangen a throsglwyddo’r papurau swyddogol i swyddogion y sir.  Er nad oedd merched y Parc ar y dechrau wedi bwriadu torri i ffwrdd o’r W.I. teimlent nad oedd ganddyn nhw fawr o ddewis dan yr amgylchiadau heblaw derbyn yr awgrym a gweithredu yn unol â hynny.

Y noson honno penderfynwyd cychwyn cymdeithas newydd i ferched Cymru fyddai’n rhoi lle urddasol i’r Gymraeg.  Yn ystod gwanwyn 1967 y bwriad oedd cychwyn ymgyrch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn Awst, ond cyn hynny rhaid oedd cael ychydig o arian wrth gefn.  Yn Ffair Glame yn nhre’r Bala roedd stondin gan ferched Y Parc i godi arian, ac fe holodd y diweddar Meirion Jones, prifathro’r Ysgol Gynradd, beth oedd diben y stondin.  Wedi clywed yr hanes, fe gysylltodd yn syth â’r wasg a’r cyfryngau, a gwnaed y bwriad yn gyhoeddus ar Fai 15fed.  O fewn wythnos roedd cangen arall o Ferched y Wawr wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd gyda rhyw 34 o aelodau.

Y ddwy gangen arloesol hyn a aeth yn gyfrifol am drefnu Pabell Merched y Wawr ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ac am gynnal cyfarfod cyhoeddus ar y Maes.  O ganlyniad uniongyrchol i’r cyfarfod hwnnw, fe gododd llawer iawn o ganghennau ledled Cymru a chyn bo hir fel drefnwyd Pwyllgorau Rhanbarth.

Ym mis Rhagfyr 1967 bu cynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth.  Fe dyfodd y Mudiad fel caseg eira, ond nid heb lawer o waith trefnu gan ferched Y Parc.

Y swyddogion cyntaf oedd:

Ysgrifennydd – Zonia Bowen

Llywydd – Gwyneth Evans

Trysorydd – Kitty Edwards

Llywyddion Anrhydeddus y Mudiad:

Gwyneth Evans  1970 – 1992 (m)

Zonia Bowen  1972 – 1975 (ym)

Marged Jones 1995 – 2008 (m)

Trefnyddion y Mudiad:

Mair Elvet Thomas 1982 – 1984

Mererid James 1984 – 1994

Eleri Non Griffiths 1994 – 1998

Tegwen Morris 1999 – Presennol

Yn 1992, cafwyd dathliad arbennig ar achlysur 25 mlynedd Merched y Wawr yn Y Parc. Cafodd Cwilt arbennig ei bwytho gan aelodau Merched y Wawr o dan gyfarwyddyd Joyce Jones. Mae’r cwilt bellach wedi ymgartrefi yn y Ganolfan Genedlaethol yn Aberystwyth. Daeth aelodau o bob cwr o Gymru ynghyd i orymdeithio drwy strydoedd y Bala cyn dadorchuddio plac ar fur Ysgol y Parc i nodi’r dathliad.

Yn 1994 aethpwyd ati i sefydlu Clybiau Gwawr er mwyn denu aelodau ieuanc i’r Mudiad. Sefydlwyd y Clwb Gwawr cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog yn y Gogledd ac yng Ngwendraeth yn y De.

Agorwyd Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr yn Aberystwyth yn y flwyddyn 2000 ac fe wnaethpwyd baner newydd gan Llinos Roberts o Ranbarth Colwyn sydd i’w gweld yno.

Erbyn heddiw, mae dros 230 o Ganghennau a 40 o Glybiau Gwawr ledled Cymru a thu hwnt gyda dros 6,000 o aelodau yn perthyn i Fudiad Merched y Wawr.

CYN-LYWYDDION CENEDLAETHOL

1968 – 1970   –   Gwyneth Evans (m. Hydref 1992)

1970 – 1972   –   Marged Jones

1972 – 1974   –   Beti Hughes (m. Awst 1981)

1974 – 1976   –   Sioned Penllyn (m. Mehefin 2004)

1974 – 1976   –   Eleanor Glyn Thomas

1976 – 1978   –   Wendy Richards (m. Mai 1999)

1978 – 1980   –   Jennie Eirian Davies (m . Mai 1982)

1980 – 1982   –   Megan Creunant Davies (m. Chwefror 2005)

1982 – 1984   –   Rebecca Powell (m. Ionawr 1993)

1984 – 1986   –   Eirlys Peris Davies(m. Medi 2007)

1986 – 1988   –   Eirlys Lewis Evans(m Hydref 2010)

1988 – 1990   –   Margarette Huws

1990 – 1992   –   Mair Penri Jones

1992 – 1994   –   Nan Lewis

1994 – 1996   –   Rhianwen Huws Roberts

1996 – 1998   –   Valerie James (m. Rhagfyr 2014)

1998 – 2000   –   Sylwen Davies

2000 – 2002   –   Catrin Stevens

2002 – 2004   –  Gwyneth Morus Jones (m. Rhagfyr 2012)

2004 – 2006  –   Glenys Thomas

2006 – 2008   –   Mary Price

2008 – 2010   –   Esyllt Jones

2010 – 2012   –   Mererid Jones

2012 – 2014   –   Gill Griffiths

2014 – 2016   –   Meryl Davies

2016 – 2018   –   Sandra Morris Jones

2018 – presennol   –   Meirwen Lloyd