Clwb Gwawr Bro Dysynni
Croeso i Glwb Gwawr Bro Dysynni. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Tywyn / Bryncrug

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

WP_20171012_001

Ym mis Hydref 2017 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Tywyn a Bryncrug. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 15 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Bro Dysynni”.

Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Waith Lledr!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Dod i ‘Nabod aelod o Glwb Gwawr Bro Dysynni

Dewch i ‘nabod Beth Lawton o Glwb Gwawr Bro Dysynni! Erthygl o “Y Wawr” rhifyn 203, Gwanwyn 2019. Cliciwch YMA i’w ddarllen.

Cinio Nadolig 2018

Ar 7/12/18 daeth 3 Chlwb Gwawr ynghyd i ddathlu’r Nadolig gyda gwledd yng Ngwesty Ty’n y Cornel, Tal-y-llyn. Roedd hi’n noson braf i gymdeithasu a darganfod cysylltiadau rhwng aelodau CG  …Darllen mwy  »

Clybiau’n dod at ei gilydd

Mae 2 Glwb Gwawr wedi’i sefydlu ym Meirionnydd yn ddiweddar, sef CG Merched Meirion (Dolgellau) a CG Bro Dysynni (Tywyn). Penderfynwyd dod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi,  …Darllen mwy  »

Crefft Lledr

Dyma aelodau CG Bro Dysynni yn Woodlands/Bronffynnon ar 8/2/18 gyda Bagiau hyfryd Elin Angharad. Crefftwraig ifanc o’r ardal ydi Elin, wedi graddio yn 2017. Mae hi wedi creu amrywiaeth o  …Darllen mwy  »

Blasu Gwin

Ar 9/11/17 aeth aelodau CG Bro Dysynni am dro i Ddolgellau am noswaith blasu gwin yn siop Dylanwad. Cafodd pawb cawl blasus a chyfle i sgwrsio a chymdeithasu cyn i  …Darllen mwy  »

Clwb Gwawr Newydd – Clwb Gwawr Bro Dysynni

Ar nos Iau 12fed o Hydref daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Woodlands/Bronffynnon, Bryncrug i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Rhan o Ferched Y Wawr ydynt, yn  …Darllen mwy  »

Trafod Cychwyn Clwb Gwawr

Dyma rhai o ferched Bro Dysynni yn mwynhau darllen cylchgrawn Y Wawr yn Woodlands/Bronffynnon ar 22/9/17.  Roedd y criw wedi mynychu cyfarfod agored i drafod cychwyn Clwb Gwawr yn yr ardal.  …Darllen mwy  »

Clwb Gwawr Newydd i Fro Dysynni

Dach chi’n chwilio am gyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg? Beth am fwynhau noson allan unwaith y mis? Dewch i sefydlu Clwb Gwawr newydd i Fro Dysynni yn y Woodlands,  …Darllen mwy  »

Noson Agored Clwb Gwawr Bro Dysynni

Gwahoddiad i noson agored i ferched ardal Bro Dysynni gael blas ar Glwb Gwawr! Dewch i gymdeithasu dros ddiod a chlywed am hanes a gwaith mudiad Merched y Wawr, ac  …Darllen mwy  »
  • Archif:

    • 2019

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mawrth

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Rhagfyr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

      • Hydref

      • Tachwedd

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Clwb Gwawr Newydd – Clwb Gwawr Bro Dysynni

    WP_20171012_001

    Ar nos Iau 12fed o Hydref daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Woodlands/Bronffynnon, Bryncrug i glywed mwy am Glybiau Gwawr.

    Rhan o Ferched Y Wawr ydynt, yn rhoi cyfle i ferched ifanc (ac ifanc eu hysbryd) gyfarfod unwaith y mis i gymdeithasu a chael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’r rhwydwaith o Glybiau Gwawr wedi lledaenu ar draws Cymru, ac erbyn heddiw mae dros 40 clwb efo bron 600 aelod yn mwynhau gweithgareddau cyffrous bob mis.

    Yn dilyn sgwrs efo Swyddog Hyrwyddo Clybiau Gwawr y Gogledd, roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau “Clwb Gwawr Bro Dysynni”.

    Diolch i Mair Jones ac Annest Owen am gynnig trefnu noson “Blasu Gwin”, yn siop Dylanwad Da, Dolgellau ar nos Iau 9fed o Dachwedd, ac wedyn bydd y merched yn mwynhau cinio Nadolig ar Ragfyr 14eg. Mae’r rhaglen lawn i’w gweld ar www.clybiaugwawr.cymru. Ymunwch â grŵp Facebook “Clwb Gwawr Bro Dysynni”, am fanylion. Dewch yn llu a chewch nosweithiau o gymdeithasu a hwyl efo merched yr ardal. Croeso cynnes i bawb.

    Rydym yn ddiolchgar iawn i Annest a’r holl dîm yn Woodlands/Bronffynnon am eu cefnogaeth. Am fwy o wybodaeth gweler ein gwefan, ewch i Facebook “Clybiau Gwawr – Y Clwb i Ferched Cymru”, Twitter @Clybiaugwawr neu www.clybiaugwawr.cymru

    Dewch a Mwynhewch!

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Mona Hughes
    Hafren, Ffordd Pencefn, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2ER
    01341 423 200
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Eirian Roberts
    Rhyd yr Efail, Parc, Y Bala, Gwynedd, LL23 7YP
    01678 540 310
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Bethan Edwards
    Perthi, 5 Cae Gwalia, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7NA
    01678 540 601
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:
    Gwerfyl Eidda Roberts
    Elidan, 11 Maes Melwr, Llanrwst, Conwy, LL26 0RY
    07903 049 185

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.