Clwb Gwawr Bro Dysynni
Croeso i Glwb Gwawr Bro Dysynni. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Tywyn / Bryncrug

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

WP_20171012_001

Ym mis Hydref 2017 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Tywyn a Bryncrug. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 15 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Bro Dysynni”.

Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Waith Lledr!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Blasu Gwin

WP_20171109_002

Ar 9/11/17 aeth aelodau CG Bro Dysynni am dro i Ddolgellau am noswaith blasu gwin yn siop Dylanwad. Cafodd pawb cawl blasus a chyfle i sgwrsio a chymdeithasu cyn i Dylan gychwyn y blasu go iawn gyda sieri melys. Roedd y merched wedi gwirioni gyda’r holl wybodaeth…. gwin coch pefriog! Pwy a ŵyr? Maen nhw i gyd erbyn hyn yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Prosecco a Champagne, a pha win sy’n mynd efo bwydydd gwahanol. Roedd hi’n noson wych, a rhaid diolch o galon i Dylan, Llinos a’r staff i gyd.

  • Archif:

    • 2019

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mawrth

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Rhagfyr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

      • Hydref

      • Tachwedd

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.