Clwb Gwawr Bro Dysynni
Croeso i Glwb Gwawr Bro Dysynni. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Tywyn / Bryncrug

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

WP_20171012_001

Ym mis Hydref 2017 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Tywyn a Bryncrug. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 15 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Bro Dysynni”.

Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Waith Lledr!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Cinio Nadolig 2018

DSC_7052

Ar 7/12/18 daeth 3 Chlwb Gwawr ynghyd i ddathlu’r Nadolig gyda gwledd yng Ngwesty Ty’n y Cornel, Tal-y-llyn. Roedd hi’n noson braf i gymdeithasu a darganfod cysylltiadau rhwng aelodau CG Bro Dysynni, CG Merched Meirion a CG Glyndŵr. Mae’r merched i gyd yn awyddus i drefnu mwy o nosweithiau ar y cyd yn y dyfodol.

Diolch i Malcolm, Christo a’r staff i gyd yn Nhy’n y Cornel am eu croeso.

TynCornel

  • Archif:

    • 2019

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mawrth

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Rhagfyr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

      • Hydref

      • Tachwedd

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Dyddiad: 09/05/2019

    TAITH DDIRGEL

    Mwy o wybodaeth

    Mai 9

    Bydd CG Bro Dysynni yn mwynhau taith ddirgel

    Dyddiad: 13/06/2019

    TAITH HAF

    Mwy o wybodaeth

    Mehefin 13

    Bydd CG Bro Dysynni yn mwynhau ymweld a’r Ysgwrn, gyda phryd o fwyd yn yr Oakley Arms i ddilyn

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.