Clwb Gwawr Ogwr
Croeso i Clwb Gwawr Ogwr. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 3ydd nos Iau neu nos Wener o bob mis os na ddangosir yn wahanol.

Croeso cynnes i bawb!

Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Dewch i ymuno gyda ni yn Glwb Gwawr Ogwr.

Rydym yn griw da o ferched sydd yn mwynhau cwrdd i gymdeithasu a dysgu. Rydym yn cwrdd y 3ydd nos Iau neu nos Wener o bob mis ac wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o noson Ddrama i fwynhau cwyd Indiaidd.

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy cyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd.  Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Clwb Gwawr Ogwr a Merched y Wawr Pen-y-bont yn Codi Arian Gyda Noson Swisho

Ar nos Iau’r 7fed o Fai fe ddaeth Clwb Gwawr Ogwr a Merched y Wawr Pen-y-bont at ei gilydd yn Cabo Roche ym Mhen-y-bont ar gyfer Noson Swisho i godi arian tuag at Yr Ŵyl Gerdd Dant Porthcawl 2015 a Chronfa Nepal. Pwrpas Noson ‘swisho’ yw i bawb ddod a rhyw 3 eitem neis oedd ganddynt adref roeddynt yn hoff ohono, er ddim yn defnyddio mwyach i gyfnewid am rywbeth newydd.

Mwynhau y Noson Swisho

Mwynhau y Noson Swisho

Roedd yr eitemau yn amrywio o ddillad, bagiau, esgidiau, gemwaith, sgarffiau, adnoddau’r cartref (bowlenni, fframiau lluniau, llyfrau coginio…) ac ati. Rhoddodd pawb cyfraniad am gyfnewid eitemau a rhwng hwnnw a’r raffl codwyd £120 tuag at yr elusennau.

Codi arian at achos da

Codi arian at achos da

Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu.

  • Archif:

    • 2015

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Jên Dafis
    jen@merchedywawr.cymru
    07971 523 249
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:
    Jên Dafis
    jen@merchedywawr.cymru
    07971 523 249

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.