Clwb Gwawr Cywion Conwy
Croeso i Glwb Gwawr Cywion Conwy. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar yr 2il nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ym mis Mawrth 2011 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Llandudno. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 25 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Cywion Conwy”.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Zumba!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Dydd Gŵyl Dewi 2018
Roedd merched ardal Llandudno i gyd yn awyddus i drio dawnsio gwerin i ddathlu Gŵyl Ddewi 2018. Noson agored oedd hon, wedi ei drefnu gan Glwb Gwawr Cywion Conwy ar …Darllen mwy »
Cinio Blwyddyn Newydd
Ar 12/1/18 aeth aelodau Clwb Gwawr Cywion Conwy i’r Erskine Arms, Conwy am ginio. Hen dafarn coets fawr draddodiadol yw’r Erskine Arms, tafliad carreg o Gastell Conwy. Cafodd yr adeilad …Darllen mwy »
Gwasanaeth Nadolig Rhanbarth Aberconwy 2017
Cafwyd gwasanaeth Nadolig y rhanbarth yng Nghapel Coffa Cyffordd Llandudno ar 4/12/17. Roedd Clwb Gwawr Cywion Conwy yn gyfrifol am ddarparu lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y gwasanaeth. Dyma siec yn …Darllen mwy »
Gwers Croquet
Dyma aelodau Clwb Gwawr Cywion Conwy ar 22/6/17 yn cael gwers croquet yng Nghraig-y-Don ger Llandudno. Cafwyd noson wych ar y lawnt gyda Mr Glyn Jones yn cyflwyno rheolau’r gêm …Darllen mwy »
Cinio Gŵyl Dewi 2017
Ar Fawrth 9fed cafodd aelodau Clwb Gwawr Cywion Conwy cinio i ddathlu Gŵyl Dewi ym Mwyty Tal Y Cafn. Mwynhawyd y bwyd a’r cymdeithasu gan bawb ar y noson. Diolch …Darllen mwy »
Bagiau Dathlu’r Aur – CG Cywion Conwy
Dyma rhai aelodau Clwb Gwawr Cywion Conwy, Aberconwy yn derbyn eu bagiau Dathlu’r Aur yn ystod noson reiki a myfyrdod yn Ysgol Tudno, Llandudno ar 16/2/17
Placiau Pren
Noson yng nghwmni Dawn o Lansannan a gafodd Clwb Gwawr Cywion Conwy ar 13/10/16. Dangosodd Dawn sut i addurno placiau pren. Dyma be oedd y canlyniadau!!!! Noson wych a phawb …Darllen mwy »
Noson Agoriadol 2016
Ar nos Iau Medi 8fed 2016 cafodd merched ardal Llandudno noson ddifyr yn trin a thrafod eu rhaglen am y flwyddyn 2016-17. Wedyn roedd cyfle i gael hwyl wrth chwarae …Darllen mwy »
Cyfarfod Blynyddol 2016
Roedd tafarn y Cottage Loaf yn Llandudno yn lleoliad braf iawn i gael Cyfarfod Blynyddol Clwb Gwawr Cywion Conwy ar 7/7/16. Ar ôl pryd o fwyd blasus iawn aeth y …Darllen mwy »
Crazy Golff
Ar nos Iau 9fed Mehefin 2016 cafodd Clwb Gwawr Cywion Conwy noson hwylus iawn yn chwarae “Crazy Golff” yn Rhos Fynach, Llandrillo yn Rhos. Digon o hwyl a sbri gyda …Darllen mwy »
Tudalen 1 o 4
1
2
3
4
>>
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Llywydd:
Alma Dauncey Roberts
Alltrem, Dolwyddelan, Betws y Coed, Sir Conwy LL25 ODZ
01690 750 331

Ysgrifennydd:

Trysorydd:
Gwyneth O. Jones
Pennant Canol, Llanddoged, Llanrwst, Sir Conwy LL26 OLZ
01492 650 555

Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
Freda Jones Williams
Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
01678 521 883

Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:
Gwerfyl Eidda Roberts
Elidan, 11 Maes Melwr, Llanrwst, Conwy, LL26 0RY
07903 049 185