Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Yn mis Mawrth 2011 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Llandudno. Roedd yn noson lwyddiannus gyda tua 25 o ferched wedi mynychu. Penerfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Cywion Conwy”.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni anrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Blasu Gwin i Zumba!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy cyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Bowlio 10 MYW Aberconwy 2014
Daeth 9 tîm i gystadlu yng ngornest Bowlio 10 Merched y Wawr Rhanbarth Aberconwy ar 7/5/14.
Dyma ganlyniadau’r noson:
1. Clwb Gwawr Cywion Conwy (625)
2. Cangen MyW Penmachno (586)
3. Cangen MyW Carmel (584)
Sgôr Uchaf; Elin Williams, cangen MyW Eglwysbach, 125
Mi fydd Cywion Conwy a Changen Penmachno yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol ar 13/6 yng Nglasfryn, Pwllheli. Pob lwc genod!
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




