Clwb Gwawr Dyffryn Tanat
Croeso i Glwb Gwawr Dyffryn Tanat. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Penybontfawr / Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

WP_20170420_001

Mae Clwb Gwawr Dyffryn Tanat wedi bodoli dros 10 mlynedd, ac yn dal i fynd o nerth i nerth. Maent wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau dros y blynyddoedd, o harddwch i gomedi Tudur Owen!

Mae’r aelodau i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Maent yn cyfarfod yn ardal Pen-y-bont-fawr / Llanrhaeadr-ym-mochnant pob mis.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Taith Gerdded 2018

Am ardal hyfryd! Roedd taith gerdded Clwb Gwawr Dyffryn Tanat 2018 yn ardal Llanrhaeadr ym Mochnant, gyda bwyd yn y Plough Inn i ddilyn. Mae pawb yn edrych ymlaen at  …Darllen mwy  »

Cinio Nadolig 2017

I ddathlu’r Nadolig ar Ragfyr 12, 2017, aeth CG Dyffryn Tanat am swper i’r Dyffryn, Foel. “Beth am estyn gwahoddiad i’n partneriaid?” meddai un o’r merched – syniad da! Ond  …Darllen mwy  »

Taith Gerdded 2017

Roedd 20/7/17 yn noson braf iawn i fynd am dro rhwng Cwm Cownwy a Llanwddyn, ac ymlaen i Westy Llyn Efyrnwy am bryd o fwyd. Mae’r clwb wedi cael blwyddyn  …Darllen mwy  »

Cwis Hwyl

Ar 20 Ebrill 2017 cafodd aelodau CG Dyffryn Tanat gwis hwyl yn y Wynnstay, Llanrhaeadr ym Mochnant. Roedd lluniaeth ysgafn wedyn hefyd.

Rhaglen 2015-16

Ar 16 Gorffennaf 2015 aeth aelodau CG Dyffryn Tanat ar daith gerdded yn ardal Llansanffraid-ym-Mechain, ac i’r Lion Inn am bryd o fwyd a chyfarfod blynyddol. Daeth pawb a syniadau  …Darllen mwy  »

Dod i ‘Nabod aelod o Glwb Gwawr Dyffryn Tanat

Dewch i ‘nabod Delyth Davies o Glwb Gwawr Dyffryn Tanat! Erthygl o “Y Wawr” rhifyn 187, Haf 2015. Cliciwch YMA i’w ddarllen.    

Taith Gerdded 2013

Ar 11 Gorffennaf 2013 aeth aelodau CG Dyffryn Tanat ar daith gerdded yn ardal Llanrhaeadr ym Mochnant, ac i’r Gegin Fach am bryd o fwyd a chyfarfod blynyddol. Daeth pawb  …Darllen mwy  »

Taith Gerdded

Dyma aelodau CG Dyffryn Tanat ar daith gerdded ym mis Ebrill 2010.
  • Archif:

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Gorffennaf

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ebrill

      • Gorffennaf

      • Rhagfyr

    • 2015

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Gorffennaf

    • 2013

      • Blwyddyn Cyfan

      • Gorffennaf

    • 2010

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ebrill

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Taith Gerdded 2017

    WP_20170720_003

    Roedd 20/7/17 yn noson braf iawn i fynd am dro rhwng Cwm Cownwy a Llanwddyn, ac ymlaen i Westy Llyn Efyrnwy am bryd o fwyd. Mae’r clwb wedi cael blwyddyn llawn hwyl unwaith eto, a daeth syniadau gwych wrth drafod a threfnu rhaglen 2017-18. Ar ddiwedd y noson, sylwodd yr aelodau bod Derek Brockway yn y gwesty hefyd – roedd o wedi bod am dro i ffilmio “Weatherman Walking” yn yr ardal ar yr un pryd. Roedd rhaid cael llun a sgwrs efo fo cyn gadael – yn Gymraeg wrth gwrs!

    IMG_0381

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Nelian Richards
    Ger-y-Parc, Dolerw Park Drive, Y Drenewydd, Powys, SY16 2BA
    01686 627 410
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Delma Thomas
    Preseli, Stryd y Capel, Caersws, Y Drenewydd, Powys, SY17 5ED
    01686 688 538
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Meira Evans
    Gesail Ddu, Foel, Trallwng, Powys, SY21 0NZ
    01938 820 120
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:
    Gwerfyl Eidda Roberts
    Elidan, 11 Maes Melwr, Llanrwst, Conwy, LL26 0RY
    07903 049 185

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.