Clwb Gwawr Fama
Croeso i Glwb Gwawr Fama. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar nos Wener unwaith bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Yr Wyddgrug

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Dechrau CG Fama 2009

Dechrau CG Fama 2009

“Gwawrio” yn Sir y Fflint 2009

Ar y 4ydd o Fedi 2009 mi ddaeth criw o 20 o ferched ifanc at ei gilydd i sefydlu Clwb Gwawr cyntaf Sir y Fflint. Ar ôl taith gerdded egniol mwynhaodd y criw pryd o fwyd blasus yn Nhafarn yr Enfys, Gwernymynydd. Cytunwyd ar yr enw “Clwb Gwawr Fama”.

Dros y blynyddoedd, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Gardiau Tarot!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Cinio Nadolig (hwyr) CG Fama

Ar 18/1/18 bu Clwb Gwawr Fama’n dathlu’r Nadolig gyda gwledd ym mwyty Belvedere, Yr Wyddgrug. Cafwyd bwyd Eidaleg blasus iawn, ac roedd pawb wedi mwynhau. Diolch i’r Belvedere am y  …Darllen mwy  »

“Pils, Peils a Chrîm”

Dyma aelodau Clwb Gwawr Fama ar 19/10/17 yng Nghanolfan Parkfields yr Wyddgrug yn gwrando’n astud ar Berwyn Owen, Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn siarad am hanes “Pils, Peils  …Darllen mwy  »

Llaeth y Llan 28/9/17

Roedd hi’n wych gweld nifer o aelodau newydd wedi ymuno â chriw Clwb Gwawr Fama ar gyfer noson gyntaf 2017-18, sef ymweliad â Ffatri Iogwrt Llaeth y Llan, Llanefydd. Mi  …Darllen mwy  »

Taith Gerdded Y Mwynglawdd

Ar 19/5/17 fel digwyddiad agored mis Iaith ar Daith, trefnwyd taith gerdded gan Glwb Gwawr Sêr Maelor yn ardal Y Mwynglawdd. Roedd hi’n bleser i groesawi aelodau o Glwb Gwawr  …Darllen mwy  »

Noson o Ddathlu

Ar 3/5/17 daeth nifer o ddysgwyr y gogledd-ddwyrain i far gwin Y Delyn yn Yr Wyddgrug am gwis hwyl. Trefnwyd gan Gymraeg i Oedolion a Chlybiau Gwawr Glyn Maelor fel  …Darllen mwy  »

Bagiau Dathlu’r Aur – CG Fama

Dyma rhai aelodau Clwb Gwawr Fama, Yr Wyddgrug yn derbyn eu bagiau yn ystod gig Huw Chiswell yn y Saith Seren, Wrecsam ar 17/2/17. Cafodd Huw ei ethol fel aelod  …Darllen mwy  »

Clogffit 3/2/17

Ym mis Chwefror 2017, gan fod pawb wedi bwyta lot gormod o fwyd a siocled dros y Nadolig, cafodd aelodau Clwb Gwawr Fama sesiwn Clogffit. Hynny yw sesiwn ymarfer corff mewn  …Darllen mwy  »

Parti Nadolig 2016

Cafwyd noson braf yng nghwmni ffrindiau da i ddathlu’r Nadolig gan aelodau Clwb Gwawr Fama wrth iddynt fwynhau pryd o fwyd Nadoligaidd ym mwyty’r Glasfryn ar Nos Wener Rhagfyr yr  …Darllen mwy  »

Siopa Nadolig Mati a Meg 4/11/16

I siop Mati a Meg yn Yr Wyddgrug aeth aelodau Clwb Gwawr Fama fel digwyddiad mis Tachwedd, a chafwyd noson hyfryd iawn yno. Gwydryn o brosecco a mins pei i  …Darllen mwy  »

Shwmae, Sumae 2016

Cafodd Clwb Gwawr Fama noson “Shwmae, Sumae” braidd yn gynnar yn 2016, ar 30/9. Helfa drysor ar droed oedd y gweithgaredd, a gwahoddwyd dysgwyr yr ardal, ffrindiau a theuluoedd i  …Darllen mwy  »
Tudalen 1 o 4 1
  • Archif:

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Mai

      • Medi

      • Hydref

    • 2016

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Hydref

      • Tachwedd

      • Rhagfyr

    • 2015

      • Blwyddyn Cyfan

      • Hydref

      • Rhagfyr

    • 2014

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

      • Tachwedd

    • 2013

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Mai

      • Mehefin

      • Tachwedd

    • 2012

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Ebrill

      • Mai

      • Medi

      • Rhagfyr

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Noson o Ddathlu

    WP_20170503_006

    Ar 3/5/17 daeth nifer o ddysgwyr y gogledd-ddwyrain i far gwin Y Delyn yn Yr Wyddgrug am gwis hwyl. Trefnwyd gan Gymraeg i Oedolion a Chlybiau Gwawr Glyn Maelor fel rhan o fis Iaith ar Daith Fflint a Wrecsam. Roedd hon yn gyfle i ddysgwyr eithaf rhugl pontio i’r gymuned Gymreig dros wydryn o win a bach o hwyl.

    Roedd hefyd cyfle i aelodau CG Fama cael gweld y darian hyfryd roeddent wedi ennill ar 18/03 yng Nghinio Llywydd y Gogledd a Dathlu’r Aur ym Mhlas Isaf, Corwen. Cyflwynir y darian yn flynyddol gan Lywydd Merched y Wawr i’r gangen neu glwb sydd wedi llwyddo i ddenu’r nifer mwyaf o aelodau yn ystod y flwyddyn.

    Yn 2016-17, roedd CG Fama wedi denu 15 aelod newydd, a chafwyd tarian, tystysgrif a roset arbennig Dathlu’r Aur gan y llywydd, Sandra Morris Jones. Roedd y merched yn hapus iawn fel y gwelwch yn y llun.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Anwen Williams
    Gogledd Ddwyrain Cymru
    01745 550 362
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.