Clwb Gwawr Fama
Croeso i Glwb Gwawr Fama. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar nos Wener unwaith bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Yr Wyddgrug

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Dechrau CG Fama 2009

Dechrau CG Fama 2009

“Gwawrio” yn Sir y Fflint 2009

Ar y 4ydd o Fedi 2009 mi ddaeth criw o 20 o ferched ifanc at ei gilydd i sefydlu Clwb Gwawr cyntaf Sir y Fflint. Ar ôl taith gerdded egniol mwynhaodd y criw pryd o fwyd blasus yn Nhafarn yr Enfys, Gwernymynydd. Cytunwyd ar yr enw “Clwb Gwawr Fama”.

Dros y blynyddoedd, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Gardiau Tarot!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Dathlu Gŵyl Ddewi gyda’r Cymdeithasau 2016

WP_20160301_004%5b1%5d

Ar 1/3/16 cynhaliwyd Cinio’r Cymdeithasau yng Ngwesty Plas Hafod, Gwernymynydd ger Yr Wyddgrug.

WP_20160301_005%5b1%5d

Roedd cyfle i’r holl gymdeithasau yn yr ardal dod ynghyd i ddathlu dros bryd o fwyd arbennig.

Dyma rhai aelodau CG Fama’n mwynhau’r noson.

WP_20160301_006%5b1%5d

Y gŵr gwadd oedd y cyflwynydd teledu a chyfreithiwr Cymreig Nic Parry. Mynychodd Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.

Clywon hanesion ei yrfa eang, o gyflwyno rhaglen Sgorio a sylwebaeth ar chwaraeon ar gyfer S4C a’r BBC, i’w waith fel cyfreithiwr a barnwr yn Llys y Goron Ogledd Cymru.

Dyma Eirian Conlan gyda Nic Parry.

WP_20160301_007%5b1%5d

  • Archif:

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Mai

      • Medi

      • Hydref

    • 2016

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Hydref

      • Tachwedd

      • Rhagfyr

    • 2015

      • Blwyddyn Cyfan

      • Hydref

      • Rhagfyr

    • 2014

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

      • Tachwedd

    • 2013

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mawrth

      • Mai

      • Mehefin

      • Tachwedd

    • 2012

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Ebrill

      • Mai

      • Medi

      • Rhagfyr

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Anwen Williams
    Gogledd Ddwyrain Cymru
    01745 550 362
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.