Clwb Gwawr Merched Meirion
Croeso i Glwb Gwawr Merched Meirion. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Dolgellau

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Merched Meirion

Ym mis Hydref 2016 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Dolgellau. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 8 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Merched Meirion”.

Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol bob blwyddyn, gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Harddwch!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Cinio Nadolig 2018

Ar 7/12/18 daeth 3 Chlwb Gwawr ynghyd i ddathlu’r Nadolig gyda gwledd yng Ngwesty Ty’n y Cornel, Tal-y-llyn. Roedd hi’n noson braf i gymdeithasu a darganfod cysylltiadau rhwng aelodau CG  …Darllen mwy  »

Clybiau’n dod at ei gilydd

Mae 2 Glwb Gwawr wedi’i sefydlu ym Meirionnydd yn ddiweddar, sef CG Merched Meirion (Dolgellau) a CG Bro Dysynni (Tywyn). Penderfynwyd dod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi,  …Darllen mwy  »

Cinio Nadolig 2017

“Y Meirionnydd” yn Nolgellau oedd lleoliad parti Nadolig CG Merched Meirion ar 7/12/17. Cafodd pawb noswaith hyfryd yn cymdeithasu dros bryd o fwyd arbennig o dda. Ymlaen at 2018!

Cwis Hwyl 2017

Enillwyr y cwis hwyl ar thema “Siocled” yn Nhafarn Y Ship, Dolgellau 15/6/17. Roedd criw bach o aelodau CG Merched Meirion wedi mwynhau noson gymdeithasol braf.

Croeso i CG Merched Meirion

Ar nos Iau 20fed o Hydref daeth criw o ferched at ei gilydd yn siop Dylanwad, Dolgellau i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Rhan o Ferched Y Wawr ydynt, yn  …Darllen mwy  »

Noson Agored i drafod sefydlu Clwb Gwawr

I ddathlu pen-blwydd Merched y Wawr yn 50 oed, gwahoddwyd merched ardal Dolgellau i noson anffurfiol i drafod sefydlu Clwb Gwawr yn yr ardal. Cynhaliwyd y cyfarfod yn y Cross  …Darllen mwy  »
  • Archif:

    • 2018

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mawrth

      • Rhagfyr

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Rhagfyr

    • 2016

      • Blwyddyn Cyfan

      • Medi

      • Hydref

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Dyddiad: 20/06/2019

    GEMWAITH

    Mwy o wybodaeth

    Mehefin 20

    Bydd CG Merched Meirion yn mwynhau noson gyda Mari Eluned

    Dyddiad: 06/07/2019 - 13/07/2019

    TRIP HAF

    Mwy o wybodaeth

    Gorffennaf 6 neu 13

    Bydd CG Merched Meirion yn mwynhau taith tywys, blasu gwin a lluniaeth ysgafn yng Ngwinllan Pant Du, Penygroes

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Freda Jones Williams
    Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn Powys
    01678 521 883
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.