Clwb Gwawr Ser Maelor
Croeso i Glwb Gwawr Sêr Maelor. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar nos Wener unwaith bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Avatar Ardal Wrecsam

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Ser Maelor - Noson sefydlu

Ser Maelor – Noson sefydlu

Ar 30 o Fai 2012 daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Saith Seren, Wrecsam i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Ar ôl sgwrs efo Swyddog Hyrwyddo a Datblygu Clybiau Gwawr y Gogledd, roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau “Clwb Gwawr Sêr Maelor”.

Ers hynny, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o greu truffles siocled i gadw’n heini!

Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.

Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.

Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Rhaglen 2014 – 15

Ser Rhaglen 14-15

Aeth Clwb Gwawr Ser Maelor am dro o gwmpas parc gwledig Melin y Nant i agor tymor 2014 – 15. Mae llawer o weithgareddau cyffrous i ddilyn dros y flwyddyn ac mae’r aelodau i gyd yn edrych ymlaen at gael llawer o hwyl gyda’r merched! Croeso cynnes i aelodau newydd unrhyw adeg o’r flwyddyn.

  • Archif:

    • 2017

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mawrth

      • Mai

      • Hydref

    • 2016

      • Blwyddyn Cyfan

      • Ionawr

      • Mawrth

      • Hydref

    • 2015

      • Blwyddyn Cyfan

      • Medi

    • 2014

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mehefin

      • Medi

    • 2013

      • Blwyddyn Cyfan

      • Chwefror

      • Mai

      • Mehefin

      • Medi

      • Tachwedd

    • 2012

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

      • Medi

    • 2000

      • Blwyddyn Cyfan

      • Mai

  • Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

    Officer Photo
    Llywydd:
    Officer Photo
    Ysgrifennydd:
    Officer Photo
    Trysorydd:
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Canghennau:
    Anwen Williams
    Gogledd Ddwyrain Cymru
    01745 550 362
    Officer Photo
    Swyddog Hyrwyddo/Datblygu Clybiau:

    Beth am ymuno gyda ni?  Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.