Tafwyl 2018 – 1/7
Tafwyl 2018 – Siaradwyr Merched y Wawr
Dydd Sul 1af o Orffennaf 16.30 Yurt Byw yn y Ddinas
‘Y Wawr’ dathliad o newyddiaduriaeth yn y Gymraeg
Catrin Stevens
Bu Catrin Stevens yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr rhwng 2000-2002 ac yn olygydd y Wawr 2008-2011. Hi hefyd olygodd rifyn Dathlu’r AUR 2017 a’r 200fed rhifyn dathliadol yn 2018.
Wendy Lloyd-Jones
Mae Wendy Lloyd Jones yn cyn Is-olygydd, ac yna’n Olygydd Y Wawr o 2014-2017. Bu yn Pennaeth adran Saesneg ac yna yn hyfforddi darpar athrawon ym Mangor am 20 mlynedd.
Elen Hannah Davies
Mae Elen Hannah Davies o Bencader. Newydd orffen eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Enillodd gwobr Myfyriwr Newyddiadurwr y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru ac ar hyn o bryd mae’n newyddiadurwraig lawrydd i ITV Cymru
Elin Angharad
Elin Angharad, newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru a golygydd newydd Y Wawr.