Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
“Gwawrio” yn Sir y Fflint 2009
Ar y 4ydd o Fedi 2009 mi ddaeth criw o 20 o ferched ifanc at ei gilydd i sefydlu Clwb Gwawr cyntaf Sir y Fflint. Ar ôl taith gerdded egniol mwynhaodd y criw pryd o fwyd blasus yn Nhafarn yr Enfys, Gwernymynydd. Cytunwyd ar yr enw “Clwb Gwawr Fama”.
Dros y blynyddoedd, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o Flasu Gwin i Gardiau Tarot!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Noson o Ddathlu
Ar 3/5/17 daeth nifer o ddysgwyr y gogledd-ddwyrain i far gwin Y Delyn yn Yr Wyddgrug am gwis hwyl. Trefnwyd gan Gymraeg i Oedolion a Chlybiau Gwawr Glyn Maelor fel rhan o fis Iaith ar Daith Fflint a Wrecsam. Roedd hon yn gyfle i ddysgwyr eithaf rhugl pontio i’r gymuned Gymreig dros wydryn o win a bach o hwyl.
Roedd hefyd cyfle i aelodau CG Fama cael gweld y darian hyfryd roeddent wedi ennill ar 18/03 yng Nghinio Llywydd y Gogledd a Dathlu’r Aur ym Mhlas Isaf, Corwen. Cyflwynir y darian yn flynyddol gan Lywydd Merched y Wawr i’r gangen neu glwb sydd wedi llwyddo i ddenu’r nifer mwyaf o aelodau yn ystod y flwyddyn.
Yn 2016-17, roedd CG Fama wedi denu 15 aelod newydd, a chafwyd tarian, tystysgrif a roset arbennig Dathlu’r Aur gan y llywydd, Sandra Morris Jones. Roedd y merched yn hapus iawn fel y gwelwch yn y llun.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ionawr 16 - Bingo yn Wrecsam (gwahoddiad i Ser Maelor)
Chwefror 20 - Bowlio Deg yn y Fflint
Mawrth 1 - Dathlu Dydd Gŵyl Dewi (mwy o fanylion i ddilyn)
Ebrill 16 - Noson Bwyd a Diwylliant Ffraneg/Breton (Pawb i ddod a rhywbeth gyda nhw)
Mai 21 - Taith Gerdded hefo Cangen MyW Y Wyddgryg
Mehefin 12 - Helfa Drysor a Bwyd
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




