Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ar 30 o Fai 2012 daeth criw o ferched at ei gilydd yn y Saith Seren, Wrecsam i glywed mwy am Glybiau Gwawr. Ar ôl sgwrs efo Swyddog Hyrwyddo a Datblygu Clybiau Gwawr y Gogledd, roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau “Clwb Gwawr Sêr Maelor”.
Ers hynny, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth. Mae’r merched wedi mwynhau rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o greu truffles siocled i gadw’n heini!
Maent i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Taith Gerdded Y Mwynglawdd
Ar 19/5/17 fel digwyddiad agored mis Iaith ar Daith, trefnwyd taith gerdded gan Glwb Gwawr Sêr Maelor yn ardal Y Mwynglawdd. Roedd hi’n bleser i groesawi aelodau o Glwb Gwawr Fama ar y noson hefyd.
Mae’n ardal hanesyddol iawn, mae pobl wedi bod yn cloddio yn y Mwynglawdd ers o leiaf y canol oesoedd.
Mae’r cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y Mwynglawdd yn dyddio o 1296, pan anfonodd Edward 1 gloddwyr o’r Mwynglawdd i Ddyfnaint, i weithio yn ei gloddfeydd arian.
Roedd y daith gerdded o gwmpas y pyllau plwm a pharc gwledig y Mwynglawdd. Gallwch weld gweddillion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif. Roedd y merched wedi mwyhau cael cipolwg ar y gorffennol ymhlith y nifer o olygfeydd hyfryd o’r ardal.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
2019
Medi 13 - Tŷ Pawb - Trefnu rhaglen
Hydref 11 - Bwyd yn Tŷ Pawb
Tachwedd 30 - Te prynhawn, Grosevnor Pulford
2020
Ionawr 10 - Yoga hefo Rebecca yn Capel Groes
Chwefror 7 - Noson yn Tŷ Sian - Caws a Gwin
Mawrth 13 - Noson yn Tŷ Pawb
Ebrill 24 - Taith Gerdded o amgylch Wrecsam
Mehefin 12 - Levant am bryd o fwyd
Gorffennaf 10 - Taith Gerdded, Cyfarfod yn Squire York - Trefnu Rhaglen 2020-2021
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




