Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ym mis Chwefror 2015 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Rhosgadfan a Rhostryfan. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 20 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Y Gwyled”.
Mae’r merched yn trefnu rhaglen amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb unwaith y mis.
Mae pawb yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ffair Aeaf 2015
Cafodd Merched y Wawr Ffair Aeaf gofiadwy a llwyddiannus iawn yn Rhagfyr 2015. Roedd dros 150 o aelodau wedi cystadlu ac roedd yn wledd i’r llygaid – roedd pawb wedi dotio gyda’r amrywiaeth eang o Siani Corn a llongyfarchiadau gwresog i Nia Wyn Hughes o Clwb Gwawr Gwyled am ddod i’r brig.
Roedd y darten friwgig yn gystadleuaeth dda iawn gyda Megan Richards Cangen Felinfach yn ennill y wobr gyntaf. Roedd yr amrywiaeth o gracers nadolig yn anhygoel a llawer iawn o syniadau gwreiddiol a llongyfarchiadau i Eirlys Savage o Llanelwy am ennill y wobr gyntaf. Fel y gwyr pawb erbyn hyn mae Calonnau yn bwysig iawn i ni fel mudiad gyda’r ymgyrch “Ategolion at y Galon” yn mynd o nerth i nerth ac eleni roedd cystadleuaeth crefft “Calon neu Calonnau” ac am gystadleuaeth wych gyda Alwena Williams o Gangen newydd yr Hafod yn cipio’r wobr gyntaf.
Diolch i bawb a wnaeth gystadlu a hefyd pawb a fu yn gwirfoddoli yn llawn egni ar y stondin – codwyd £1207.62 drwy werthiant yr ategolion – diolch enfawr i bawb a wnaeth gefnogi mor hael.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




