Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.

Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Ym mis Chwefror 2015 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Rhosgadfan a Rhostryfan. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 20 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Y Gwyled”.
Mae’r merched yn trefnu rhaglen amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb unwaith y mis.
Mae pawb yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Cwis Hwyl Genedlaethol 2016
Dyma aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Arfon a fu’n cystadlu yn y Cwis Hwyl Genedlaethol ar 11/11/16.
Cafwyd noson braf gyda changhennau a chlybiau’n dod at ei gilydd i gymdeithasu dros ginio yng ngwesty’r Meifod, Bontnewydd.
Roedd dros 1,150 o aelodau Merched y Wawr yn cystadlu’n genedlaethol. Mae’n debyg fod ambell i declyn wedi profi yn amhosibl i’w hadnabod yn y rownd lluniau, ond nid i Nia o CG Y Gwyled….. roedd yr holl siopa yn Lakeland wedi profi’n dderbyniol iawn!
Llongyfarchiadau i Gangen Rhiwlas, Arfon a ddaeth i’r brig yn genedlaethol gyda 76 o farciau.
Roedd CG Y Gwyled yn 2il yn y rhanbarth gyda 70 o farciau. Da iawn chi genod!
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.
Beth am ymuno gyda ni? Cliciwch yma er mwyn ymaelodi.




