Ffair Aeaf Rithiol 2020 Merched y Wawr
Ffotograffiaeth – Blodyn neu Flodau
Coginio – Cacen/Teisen wedi addurno
Fideo – Cynefin (dim mwy na 3 munud o hyd)
Crefft – Enfys unrhyw gyfrwng neu eitem yn cynnwys lliwiau’r enfys
Blodau – Gosodiad o flodau neu wyrddni ar gyfer y bwrdd – gellir defnyddio ychwanegiadau neu flodau nad ydynt yn ffres.
Gan mai Gŵyl Rithiol ydyw hon – gofynnir i chi ddanfon llun yn unig atom ar e-bost neu bostio llun ymlaen os nad oes gennych dechnoleg – (nid oes angen danfon yr eitem/cynnych)
Gofynnir i chi e-bostio angharad@merchedywawr.com gyda’r pennawd Ffair Aeaf, neu postio’r lluniau at Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH cyn 20fed o Dachwedd 2020.
Gofynnir i chi nodi eich enw, eich cangen/clwb neu eich bod yn aelod unigol a hefyd pa ranbarth yr ydych yn perthyn iddi.
Caniateir dwy ymgais ym mhob un cystadleuaeth gan bob unigolyn sef cyfanswm o 10 eitem
Fe fydd yr eitemau yn cael eu beirniadu yn rhithiol a byddwn yn dangos yr eitemau ar ein cyfryngau cymdeithasol e.e. tudalen gweplyfr/Facebook. Ein tudalen gwe, instagram ayyb
Os hoffech ymaelodi mewn cangen/clwb neu fel aelod unigol cysylltwch gyda’r swyddfa.